Prif nod yr Aelwyd yw galluogi Cymry ifanc Llundain i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg yn wythnosol, a pherfformio fel côr mewn cyngherddau, Eisteddfodau a gwyliau megis Gwyl Fringe Caeredin. Mae croeso mawr i bawb, ac rydym o hyd yn croesawu aelodau newydd!
Mae'r ymarferion yn cael eu cynnal yn wythnosol ar Nos Sul am 7.30pm yn festri Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Eastcastle Street, ger Oxford Street. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar aelwydllundain@gmail.com.